Over the next six months the Place Plan Team will be holding regular events in town

Digwyddidau

Rhwng mis Medi 2023 a dechrau’r flwyddyn nesaf, bydd Tîm y Cynllun Lle yn cynnal amrywiol ddigwyddiadau yng Nghrug Hywel, lle gallwch ddweud wrthym beth ydych chi’n ei feddwl o’r dref a helpu dylanwadu ar ein blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol. Rydym yn awyddus i ddysgu am eich profiadau o Grug Hywel: beth sy’n gweithio’n dda, beth allai weithio’n well, a sut yr hoffech chi weld Crug Hywel yn datblygu yn y dyfodoI,

Mae ein cyfres gyntaf o ddigwyddiadau yn cychwyn ddiwedd mis Medi, fel a ganlyn:

10am i 5pm, 29 a 30 Medi, Neuadd Clarence – Cyfarfod â Thîm y Cynllun Lle

Digwyddiad ymgynghori galw heibio lle gallwch rannu eich anghenion, blaenoriaethau a syniadau. Gallwch hefyd gwblhau ein harolwg cymunedol yn y digwyddiad.

2 i 14 Hydref, Canolfan Adnoddau Gwybodaeth Crug Hywel – Arddangosfa Cynllun Lle

Os na allwch alw heibio i’r digwyddiad yn Neuadd Clarence, bydd ein harddangosfa Cynllun Lle a chopïau o’r arolwg ar gael yng Nghanolfan Adnoddau Gwybodaeth Crug Hywel. Ni fydd staff yma ond mae’n rhoi cyfle pellach i chi roi sylwadau.

25 Medi i 15 Hydref – Arolwg Cymunedol

Am 3 wythnos gallwch wneud sylwadau trwy ein harolwg ar-lein sydd i’w gael ar y wefan hon. Pe bai’n well gennych lenwi fersiwn papur, cysylltwch â ni.