Help us put the pieces together to make the best possible Place Plan for the people of Crickhowell

Cefndir


Rydym yn awyddus i ddangos y darlun llawn ichi.

Dros y chwe mis nesaf, bydd Cyngor Tref Crug Hywel yn datblygu ‘Cynllun Lle’ i lywio ac arwain cyfeiriad ein tref dros y 15 mlynedd nesaf. Mae Cynlluniau Lle yn ein helpu ni i ddeall pa broblemau mae cymunedau’n eu hwynebu ac yn rhoi proses inni ddylanwadu ar syniadau at atebion i’w datrys. Maent yn ein galluogi ni hefyd i ragweld y problemau y gall cymunedau eu cael yn y dyfodol ac yn ein galluogi ni i ddatblygu strategaethau a nodau i’w goresgyn. Ein nod yw y bydd y Cynllun Lle yn adlewyrchu dyheadau tymor byr a thymor hir Crug Hywel, yn ogystal â darparu canllawiau manwl a chynhwysfawr a fydd yn gymorth cryf wrth sicrhau llesiant a ffyniant ein tref yn y dyfodol.

Mae Cynllun Lle yn broses sy’n rhoi pwyslais cryf ar gydweithredu a thros y misoedd nesaf byddwn yn cydweithio’n agos â thrigolion, busnesau, a sefydliadau cymunedol Crug Hywel, yn ogystal ag amryw o drefi a phentrefi cyfagos, i adnabod meysydd o bryder, angen a llwyddiant, fel y gallwn adnabod beth yw blaenoriaethau pobl pan maent yn profi’r dref. Bydd defnyddio gwybodaeth a dealltwriaeth pobl leol o’r lle a’r amgylchedd yn ein helpu ni i wneud y Cynllun Lle cryfaf posibl fel y gallwn ymgeisio am grantiau a chyllid am brosiectau cymunedol pwysig yn y dyfodol.

Dros y misoedd nesaf bydd llawer o gyfleoedd i bobl gymryd rhan a chyfrannu eu syniadau yn ffurf teithiau cerdded o amgylch y dref, gweithdai, arolygon, arddangosfeydd a mwy. Trwy gynhyrchu syniadau trwy’r fforymau hyn, ein gobaith yw y gallwn gychwyn datblygu atebion ystyrlon i’r heriau y bydd tref farchnad fach fel Crug Hywel yn eu hwynebu wrth ddynesu at ganol yr unfed ganrif ar hugain.

Yn cefnogi Cyngor Tref Crug Hywel yn y prosiect hwn mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a fydd yn defnyddio’r profiad a gaiff Crug Hywel o’r broses hon i greu pecyn cymorth i helpu cymunedau eraill yn y Parc Cenedlaethol i ddatblygu eu Cynlluniau Lle eu hunain, a Chris Jones o’r Fenni, o Chris Jones Regeneration. Fe wnaeth Cyngor Tref Crug Hywel ac Awdurdod Parc Bannau Brycheiniog benodi Chris, sy’n arbenigwr lleoedd, i gynnig arbenigedd, dealltwriaeth a chanllawiau proffesiynol, fel y bydd y broses o ddatblygu ein Cynllun Lle mor ddiddorol, creadigol a meddylgar â phosibl i bawb sy’n ymwneud â hi.

Bydd Chris yn siarad gyda phobl yn y dref yn fuan fel rhan o’i rôl, felly os gwelwch chi ef, dywedwch ‘helo’ a gofynnwch iddo am fanylion pellach am y prosiect a sut y gallwch chi gymryd rhan a chyfrannu. Bydd yn hapus iawn i helpu. Mae Cynllun Lle yn her hynod o gyffrous i unrhyw gymuned, ac rydym wrth ein boddau o gael cychwyn ar y darn pwysig hwn o waith. Fodd bynnag, er mwyn i’r Cynllun Lleol fod y llwyddiant rydym yn rhagweld y bydd, mae arnom angen i chi, ein cymuned leol, chwarae rhan. Os oes gennych ddiddordeb ac yn dymuno derbyn gwybodaeth gyson am y prosiect, gan gynnwys dyddiadau allweddol a’r newyddion diweddaraf, ymunwch â’n rhestr bostio ar Chris@ChrisJones.Studio